SL(6)317 – Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) ac (Asesiad Ariannol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2023

Cefndir a diben

Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) ac (Asesiad Ariannol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2023 ("y Rheoliadau") yn cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 50, 52, 53(3), 61, 64(1), a (2)(b), 66 a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ("Deddf 2014").

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015 (“y Rheoliadau Gosod Ffioedd”) a Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015 (“y Rheoliadau Asesiad Ariannol”).

Mae’r Rheoliadau Gosod Ffioedd yn nodi’r gofynion y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu dilyn wrth wneud penderfyniad ar swm y ffioedd sy’n gymwys mewn perthynas â gofal a chymorth y maent yn eu darparu neu yn eu trefnu wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan Ran 4 o Ddeddf 2014. Act. Mae’r Rheoliadau Gosod Ffioedd hefyd yn cynnwys darpariaethau cyfochrog sy’n nodi’r gofynion sy’n gymwys pan fydd awdurdod lleol yn gwneud taliadau uniongyrchol i ddiwallu angen person am ofal a chymorth. Mae’r Rheoliadau Asesiad Ariannol yn gwneud darpariaeth o dan Ddeddf 2014 ynghylch y ffordd y mae’n rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad ariannol o adnoddau ariannol person (“A”) yn yr achosion a ganlyn:

·         pan fo’r awdurdod yn tybio, pe bai’n diwallu anghenion A am ofal a chymorth (neu anghenion gofalwr am gymorth), y byddai’n gosod ffi o dan adran 59 o Ddeddf 2014, neu

·         pan fo’r awdurdod yn tybio, pe bai’n gwneud taliadau tuag at y gost o ddiwallu anghenion A am ofal a chymorth (neu angen gofalwr am gymorth) drwy wneud taliadau uniongyrchol yn rhinwedd adran 50 neu 52 o Ddeddf 2014, y byddai’n ei gwneud yn ofynnol i A dalu, ar ffurf ad-daliad (yn achos taliadau gros) neu gyfraniad (yn achos taliadau net), tuag at y gost o sicrhau’r ddarpariaeth honno o ofal a chymorth.  

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 13 o’r Rheoliadau Gosod Ffioedd (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal) i gynyddu’r swm incwm wythnosol net o £35 i £39.50. Mae rheoliad 28 hefyd wedi ei ddiwygio i wneud newid cyfatebol ar gyfer derbynnydd taliadau uniongyrchol.  

Mae rheoliad 3(a)(i) o’r offeryn hwn yn diwygio geiriad disgrifiadol paragraff 20(1) o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Asesiad Ariannol i gynnwys y canlynol:

·         taliad Tŵr Grenfell,

·         taliad camdriniaeth plant,

·         taliad Windrush, a

·         thaliadau a wneir gan Ymddiriedolaeth y Plant Mudol.

Mae’r cynlluniau hyn eisoes wedi eu diystyru drwy effaith paragraff 20 o Atodlen 2 drwy eu cynnwys yn Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 ac maent wedi eu hychwanegu yn y geiriau disgrifiadol er eglurder.

Mae rheoliad 3(a)(ii) o’r offeryn hwn yn diwygio Atodlen 2 i’r Rheoliadau Asesiad Ariannol fel a ganlyn:

·         mae taliadau a wneir o dan y Cynllun Cymorth Biliau Ynni,

·         mae taliadau a wneir o dan Ddeddf Nawdd Cymdeithasol (Taliadau Ychwanegol) 2022,

i'w diystyru wrth gyfrifo cyfalaf oedolyn.

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Yn Rhan 2 o'r Memorandwm Esboniadol, sef yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, nodwn fod yr Isafswm Incwm, sy'n cael ei adolygu'n flynyddol, yn cael ei gynyddu o £35 i £39.50. Mae hyn ystyried y codiadau blynyddol i bensiynau'r wladwriaeth y DU a thaliadau budd-daliadau lles, sy’n sail i incwm wythnosol preswylwyr cartrefi gofal.

Mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn nodi bod y cynnydd ym mhensiwn sylfaenol y wladwriaeth yn unig yn £14.35 yr wythnos.

Wrth wneud y Rheoliadau hyn bydd preswylwyr a gefnogir gan eu hawdurdodau lleol yn cadw 'tua thraean' o'r cynnydd y maent yn ei gael i'w wario ar eitemau personol fel y dymunant. Dywedir y bydd hyn yn arwain at awdurdodau lleol yn cael cynnydd o ran incwm ffioedd o 'tua £8.3 miliwn y flwyddyn drwy gyfraniadau gan y 16,144 o breswylwyr dros oedran pensiwn y wladwriaeth yn unig.'

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

8 Chwefror 2023